Dyma amcanion UCAC. Mae nhw wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud fel undeb.
Sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru
Diogelu a gwella amodau gwaith aelodau ac amddiffyn eu buddiannau
Hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb mewn addysg
Hyrwyddo defnyddio'r iaith Gymraeg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg, a diwylliant Cymreig yn ei holl amrywiaeth, yn sefydliadau addysg Cymru
Cyfrannu tuag at godi a chynnal safonau addysgol
Mae UCAC yn:
diogelu athrawon, arweinwyr ysgol, darlithwyr a thiwtoriaid Cymru
cynnig cymorth parod o fewn cyrraedd, trwy gyfrwng y Gymraeg
dylanwadu’n llwyddiannus ar bolisïau addysg
Gwasanaeth i aelodau
Fel aelod o UCAC, byddwch yn derbyn:
cyngor a chymorth di-dâl ar faterion yn ymwneud â’ch gwaith
cynigion a gostyngiadau arbennig ar nwyddau a gwasanaethau
cylchgrawn tymhorol ‘Yr Athro’
cyfleoedd i ymgyrchu
cyfleoedd i fod yn weithgar gyda’r undeb mewn amrywiol ffyrdd, yn lleol, rhanbarthol ac yn genedlaethol
cyfleoedd am hyfforddiant a rhwydweithio/cymdeithasu gyda chyd-aelodau
Absenoldeb Mamolaeth / Mabwysiadu / Rhiant a Rennir - aelodaeth hanner pris
Caiff aelodau sy'n talu eu tâl aelodaeth drwy ddebyd uniongyrchol haneru eu taliadau misol yn ystod eu cyfnod o absenoldeb mamolaeth/mabwysiadu/rhiant a rennir - beth bynnag yw hyd yr absenoldeb hwnnw. Cofiwch hysbysu'r Brif Swyddfa os ydych ar fin cymryd absenoldeb o'r fath.
Cysylltu â ni:
Prif Swyddfa UCAC Ffordd Penglais Aberystwyth Ceredigion SY23 2EU