CEFNOGI ARWEINWYR YSGOLION A CHOLEGAU ADDYSG BELLACH

Hydref 2026 

Ydych chi'n arweinydd ysgol?  Ydych chi'n teimlo y gallech elw o gael sgwrsio'n gyfrinachol gyda rhywun sy'n deall yr heriau yr ydych chi'n eu hwynebu?

Mae Education Support yn cynnig goruchwyliaeth broffesiynol i arweinwyr ysgol.  

Byddwch yn cyfarfod am chwe sesiwn ar-lein gyda goruchwyliwr cymwys sy'n deall y sector addysg.

Mae gan oruchwyliaeth ffocws proffesiynol ac mae'n gwbl gyfrinachol. Mae'n amser wedi’i neilltuo i'ch rôl fel arweinydd addysg, a bydd yn eich helpu i wella'ch llesiant.

Mae Education Support eisoes wedi cefnogi dros 1300 o arweinwyr ysgol a choleg. Gall y pynciau sy'n cael eu harchwilio yn yr oruchwyliaeth gynnwys:

  • Ymdrin ag agweddau emosiynol heriol ar eich rôl
  • Cydbwyso gyrfa heriol gyda bywyd cartref iach
  • Eich hunaniaeth broffesiynol a'r gost bersonol o wneud eich gwaith
  • Rheoli perthnasoedd gwaith anodd
  • Ailgysylltu â'r hyn sy'n wych am yrfa mewn addysg

Mae astudiaethau'n dangos fod

*goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau arweinwyr.

*goruchwyliaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i lesiant arweinwyr.

*goruchwyliaeth yn gysylltiedig â boddhad swydd.

*goruchwyliaeth yn gysylltiedig â gwell llesiant emosiynol. 

 

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod: 

Wellbeing support for school and FE leaders | Education Support

FFONAU SYMUDOL

Hydref 2026 

Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn am ffonau symudol yn ein hysgolion.   Dilynwch y ddolen isod, er mwyn gweld sut y gallwch chi ddweud eich dweud a rhoi eich barn.  Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar Ragfyr 2il.  Mae'n bwysig fod aelodau o'r gweithlu addysg yn rhoi eu barn.  Bydd UCAC yn ateb ar ran ei aelodau, ond mae hwn yn gyfle euraidd i chi fel aelodau unigol hefyd i leisio eich barn chi.  

 Ymateb: Datblygu polisi ffonau symudol: canllawiau drafft i ysgolion | LLYW.CYMRU

YMATEB I GANLYNIADAU PISA

Medi 8fed, 2026 

Mae UCAC yn rhannu’r siom gyffredinol yng nghanlyniadau PISA eto eleni. 

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones:

‘Beth bynnag yw eich barn am PISA fel modd o asesu byd addysg, mae’r canlyniadau eleni yn siomedig.

Fodd bynnag, rhaid cydnabod mai cipolwg sydyn ar y gyfundrefn addysg y mae PISA yn ei roi i ni a hynny ar ystod gyfyngedig o sgiliau.  Dylid cofio mai sampl o ysgolion yn unig sydd yn cymryd rhan yn y profion hyn bob tair blynedd. Fodd bynnag, mae’n amlwg fod angen cynllunio i wella a rhoi sylw i’r sgiliau sylfaenol drwy’r wlad.  

Gallwn ond gobeithio y bydd y Cwricwlwm i Gymru o’i sefydlu’n llawn yn sicrhau fod sail gadarn i ddysgwyr ac y bydd Y Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol newydd yn fodd o gynllunio, meincnodi a sicrhau gwelliant cenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae’n allweddol ein bod yn ystyried pob agwedd o’r gyfundrefn addysg, gan gynnwys y gymuned a’r aelwyd wrth geisio cynllunio. Byddai’n dda gweld buddsodiad ariannol gwirioneddol yn ein hysgolion i sicrhau ein bod yn gweld gwelliant.  Ar hyn o bryd, mae’r gweithlu yn ein hysgolion yn gweithio’n galed o dan amgylchiadau heriol. Gobeithio y gwelwn y Llywodraeth bresennol yn gwerthfawrogi pwysigrwydd buddsoddi ym myd addysg, er mwyn gosod seiliau cadarn i’n disgyblion, sef ein dyfodol.’

 

BLWYDDYN ACADEMAIDD NEWYDD

1 Medi 2026

Pob dymuniad da i staff a disgyblion ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd.  Edrychwn ymlaen at flwyddyn newydd o gydweithio a chefnogi ein haelodau. 

Mewn undeb mae nerth!