Cwricwlwm sy’n dangos hyder, meddai undeb athrawon

29 Ebrill 2019

Cwricwlwm sy’n dangos hyder, meddai undeb athrawon

Yn sgil cyhoeddi fersiwn drafft o’r cwricwlwm newydd i Gymru, dydd Mawrth 30 Ebrill, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae heddiw’n ddiwrnod cyffrous, heb os. Am y tro cyntaf, bydd ffrwyth llafur cannoedd o athrawon ac arbenigwyr i ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn gweld golau dydd. Bydd cyfle nawr gan filoedd o athrawon, gweithwyr addysg eraill, rhieni a chyflogwyr i fynegi barn a dylanwadu ar y fframwaith fydd yn sail i addysg ein plant o 2022 ymlaen.

“Mae UCAC yn ymfalchïo yn y ffaith y bydd gennym gwricwlwm i Gymru’n benodol; cwricwlwm sy’n rhoi gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau mewn cyd-destun Cymreig a rhyngwladol. Mae’n ddatblygiad hyderus sy’n dangos ein gweledigaeth a’n dehongliad ni yng Nghymru o’r hyn yw ‘addysg’ yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Fel undeb byddwn yn annog aelodau i ymateb i’r ymgynghoriad, i fynegi barn ac i ddylanwadu ar y cwricwlwm newydd o nawr tan yr haf. O heddiw ymlaen mae’r drafft yn eiddo i bawb.

“Yn y cyfamser, bydd UCAC yn parhau i drafod materion penodol gyda’r Gweinidog a’i swyddogion, megis amser digonol i athrawon ail-hyfforddi ac addasu i’r newidiadau chwyldroadol sydd o’n blaenau ac wrth reswm yr ystyriaethau ariannol sydd ynghlwm â’r fath brosiect.”

Nodiadau

  • Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn un o brif undebau addysg Cymru. Mae’n cynrychioli athrawon, penaethiaid a darlithwyr ym mhob sector addysg yng Nghymru.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams: 07787 572180 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.