Lansiad Y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CDAPA)

23 Mai 2019

Lansiad Y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CDAPA)

Cynhaliwyd lansiad Y Ganolfan Adolygu a Dadansoddi Polisi Addysg (CDAPA) yn y Tramshed yng Nghaerdydd ar nos Lun y 13eg o Fai.

Corff fydd yn cynnal prosiectau ac yn ymchwilio i fyd addysg yw CDAPA a bwriad y noswaith agoriadol oedd ‘symud y ddadl ar addysg yng Nghymru’.

Cafwyd cyflwyniad diddorol gan bennaeth ysgol gynradd leol a oedd wedi arloesi ym meysydd newydd y cwricwlwm. Yn yr ysgol, roedd gwaith thema yn bwysig ac roedd profiad y disgybl yn gwbl ganolog i’r broses dysgu ar bob adeg.

Braf oedd croesawu cynrychiolwyr o ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a fu’n arloesi yn y cwricwlwm newydd dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd gan yr ysgol rhai enghreifftiau pendant, e.e. bu cydweithio ar draws pynciau uwchradd i greu prosiect o gwmpas dringo Pen y Fan. Yn y sector cynradd bu prosiect llwyddiannus am becynnau bwyd iach i ddysgwyr.

Mae’r prosiectau hyn, a nifer tebyg, yn darparu cyfleoedd gwerthchweil i ddisgyblion. Y camau nesaf fydd datblygu cyfleoedd dysgu ehangach a darparu amser i athrawon gynllunio ac i gyd weithio.

I gloi’r achlysur, dywedodd y Gweinidog dros Addysg, Kirsty Williams, fod cynnal deialog cyson gyda rhieni a disgyblion yn holl bwysig wrth i’r cwricwlwm ddatblygu.

Yr her fwyaf, meddai’r Gweinidog, yw sicrhau hyder y genedl – gallwn lwyddo gyda’n gilydd.

Cynhadledd Flynyddol 2019 (2019 Annual Conference)

30 Ebrill 2019

Cynhadledd Flynyddol 2019 (2019 Annual Conference)

Cafwyd Cynhadledd Flynyddol lwyddiannus gan yr Undeb eto eleni yng ngwesty’r Metropole yn Llandrindod ar y 5ed a 6ed o Ebrill. Yn ystod y Gynhadledd pasiwyd 33 o gynigion blaenllaw a fydd yn pennu ymgyrchoedd ac egwyddorion yr Undeb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Roedd y cynigion yn cynnwys rhai yngl?n â thryloywder ariannu addysg, cael calendr ysgol sefydlog, hyfforddiant ar gyfer y cwricwlwm newydd a datblygu sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y gweithlu addysg.

Croesawyd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, a wnaeth araith arbennig yn amlinellu ei gweledigaeth hi ar gyfer y gyfundrefn addysg yng Nghymru dros y blynyddoedd nesaf. Chafwyd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yr araith ar faterion megis y cwricwlwm newydd, plant gydag anghenion dysgu ychwanegol, dysgu cyfrwng Cymraeg a’r argyfwng recriwtio a chadw yn y proffesiwn.

Yn ogystal â thrafod cynigion, cafwyd cyflwyniad diddorol a defnyddiol gan Guto Aaron, Hyfforddwr Technoleg Addysg, a chafwyd hefyd sesiwn am iechyd meddwl a lles emosiynol gan yr Alcemydd Iaith o Gwmni Chrysalis, Tracey Jones. Wedi’r swper nos, cawsom ein diddanu gan y band BWCA, band newydd o ardal Aberystwyth.

Bydd Cynhadledd Flynyddol 2020 yn cael ei chynnal rhwng y 27-28 o Fawrth yng Nghwrt Bleddyn, Brynbuga – rhowch y dyddiad yn eich dyddiaduron!

Cwricwlwm sy’n dangos hyder, meddai undeb athrawon

29 Ebrill 2019

Cwricwlwm sy’n dangos hyder, meddai undeb athrawon

Yn sgil cyhoeddi fersiwn drafft o’r cwricwlwm newydd i Gymru, dydd Mawrth 30 Ebrill, dywedodd Dilwyn Roberts-Young, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC “Mae heddiw’n ddiwrnod cyffrous, heb os. Am y tro cyntaf, bydd ffrwyth llafur cannoedd o athrawon ac arbenigwyr i ddatblygu’r cwricwlwm newydd yn gweld golau dydd. Bydd cyfle nawr gan filoedd o athrawon, gweithwyr addysg eraill, rhieni a chyflogwyr i fynegi barn a dylanwadu ar y fframwaith fydd yn sail i addysg ein plant o 2022 ymlaen.

Darllen mwy

Pynciau llosg byd addysg dan drafodaeth yng Nghynhadledd UCAC

04 Ebrill 2019

Pynciau llosg byd addysg dan drafodaeth yng Nghynhadledd UCAC

Ar 5-6 Ebrill, bydd UCAC, un o brif undebau addysg Cymru, yn cynnal ei Gynhadledd Flynyddol yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod.

Bydd athrawon o bob cwr o Gymru’n ymgynnull er mwyn trafod dros 30 o gynigion ar bynciau llosg byd addysg Cymru gan gynnwys:

  • ariannu ysgolion
  • tryloywder y consortia rhanbarthol
  • calendr ysgol sefydlog
  • recriwtio a chadw penaethiaid
  • dulliau trochi ac ariannu Canolfannau Iaith
  • iechyd a lles emosiynol disgyblion a staff ysgol

Yn ogystal â’r trafodaethau bydd nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys:

  • Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru
  • Guto Aaron, ymgynghorydd a hyfforddwr Technoleg Addysg, Arloeswr a Hyfforddwr ardystiedig gyda Google for Education, Cyfarwyddwr @Twt360
  • Tracey Jones, Chrysalis, sy’n helpu athrawon ac addysgwyr i wella eu hiechyd a’u lles drwy feithrin strategaethau ymdopi ar gyfer ymdrin â phwysau bob dydd

Darllen mwy

Cynhadledd Flynyddol UCAC: 5-6 Ebrill 2019

15 Mawrth 2019

Cynhadledd Flynyddol UCAC: 5-6 Ebrill 2019

Bydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) yn cynnal ei Gynhadledd Flynyddol yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod ar 5-6 Ebrill 2019.

Y siaradwyr gwadd fydd:

  • Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, Llywodraeth Cymru(Dydd Gwener, 5 Ebrill, 13.00)
  • Guto Aaron, ymgynghorydd a hyfforddwr Technoleg Addysg, Arloeswr a Hyfforddwr ardystiedig gyda Google for Education, Cyfarwyddwr @Twt360 (Dydd Gwener, 5 Ebrill, 16.00)
  • Tracey Jones, Chrysalis, sy’n “grymuso athrawon ac addysgwyr i ddatblygu cadernid personol ac yn rhoi iddynt strategaethau ymdopi ar gyfer ymdrin â phwysau bob dydd” (Dydd Sadwrn, 6 Ebrill, 10.00)

Dyma rai o’r prif bynciau fydd yn cael eu trafod fel cynigion gan aelodau i’r Gynhadledd:

  • Ariannu ysgolion
  • Tryloywder y consortia rhanbarthol
  • Calendr ysgol sefydlog
  • Recriwtio a chadw penaethiaid
  • Dulliau trochi ac ariannu Canolfannau Iaith
  • Iechyd a lles emosiynol disgyblion a staff ysgol

Mae croeso i chi gysylltu os hoffech gael copi o’r cynigion, neu os hoffech wneud unrhyw drefniadau penodol i ymweld â’r gynhadledd, cynnal cyfweliadau ac ati.

Am fanylion pellach cysylltwch â:

  • Rebecca Williams (Swyddog Polisi) ar 01970 639950 / 07787 572180