Adnoddau Cymraeg

28 Tachwedd 2017

Adnoddau Cymraeg

Yn dilyn cwynion niferus gan aelodau, mae UCAC wedi bod yn gweithio’n galed dros y pum mis diwethaf i geisio mynd i’r afael â rhai o’r bylchau o ran adnoddau Cymraeg i gyd-fynd â chymwysterau.

Daeth i’r amlwg, ar sail gwybodaeth gan aelodau, bod bylchau mewn tua 50 o feysydd (15 pwnc TGAU, 15 pwnc Uwch Gyfrannol, 11 pwnc Safon Uwch, a 7 maes/cymhwyster arall).

Buom yn gohebu gyda Llywodraeth Cymru, CBAC a Chymwysterau, a chynhaliwyd cyfarfodydd adeiladol iawn gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ble bu cyfle i fynd trwy’r rhestr gyfan o fylchau a nodwyd gan aelodau.

Dyma rai o’r canlyniadau positif:

  • Gwahoddiad i chi awgrymu adnoddau fyddai’n ddefnyddiol mewn meysydd ble mae prinder ar hyn o bryd; anfonwch eich awgrymiadau at Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
     
  • Gweithdrefnau yn eu lle i gyflymu’r broses o gyfieithu adnoddau ble mae’n rhaid aros am yr adnodd Saesneg yn gyntaf (Addysg Grefyddol yn enghraifft o hyn; bydd y cyhoeddwyr yn Lloegr yn anfon proflenni at CBAC er mwyn dechrau ar y gwaith cyfieithu heb orfod aros nes bod y llyfr wedi dod o’r wasg cyn dechrau ar y gwaith)
     
  • Cyn i lyfrau gael eu cyhoeddi, sicrhau bod modd i athrawon gael mynediad i ddrafft eithaf terfynol ar wefan ddiogel  CBAC

Yn ogystal, cafwyd ymrwymiad y bydd unrhyw amserlen ar gyfer diwygio cymwysterau yn y dyfodol yn caniatáu digon o amser i gyhoeddi manylebau ac adnoddau yn y ddwy iaith o leiaf blwyddyn ysgol gyfan cyn dechrau’u dysgu.

Wrth i’r newidiadau i’r cwricwlwm weithio’u ffordd drwy’r system addysg, bydd UCAC yn pwyso i sicrhau y perchir yr ymrwymiad pwysig hwn.

Mae gennym ragor o wybodaeth ynghylch y sefyllfa mewn perthynas â phob pwnc ble nodwyd bod diffygion, felly os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon pellach, cysylltwch ar Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

UCAC yn cefnogi pobl Catalwnia

2 Hydref 2017

UCAC yn cefnogi pobl Catalwnia

Dangosodd UCAC ei gefnogaeth i bobl Catalwnia nos Lun 2 Hydref ar Sgwâr Glyndwr, Aberystwyth ymhlith torf o ddegau o bobl.

Darllen mwy

UCAC yn croesawu cynllun gweithredu addysg ‘Cenhadaeth ein cenedl’

26 Medi 2017

UCAC yn croesawu cynllun gweithredu addysg ‘Cenhadaeth ein cenedl’

Mae undeb athrawon UCAC wedi rhoi croeso i gyhoeddiad cynllun gweithredu Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl a lansiwyd heddiw.

Mae’r ddogfen yn gosod blaenoriaethau ar gyfer system addysg Cymru o 2017 hyd at 2021 a hynny yng nghyd-destun ‘Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol’ a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar.

Darllen mwy

Ymgais i leihau llwyth gwaith

14 Medi 2017

Ymgais i leihau llwyth gwaith

Heddiw (14 Medi 2017) cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'n buddsoddi £1.28m mewn cynllun peilot i ariannu Rheolwyr Busnes mewn clystyrau o ysgolion cynradd. Bwriad y cynllun yw lleihau'r baich gweinyddol ar benaethiaid er mwyn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar faterion addysgol.

Yn ogystal heddiw, cafodd canllaw 'Lleihau Baich Gwaith' ei gyhoeddi sydd wedi'i lunio ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Estyn, awdurdodau lleol, y consortia rhanbarthol, Cyngor y Gweithlu Addysg, ac undebau addysg.

Darllen mwy

Ymateb yr undebau ar y cyd i argymhellion y Llywodraeth yn dilyn adroddiad yr STRB

28 Gorffennaf 2017

Ymateb yr undebau ar y cyd i argymhellion y Llywodraeth yn dilyn adroddiad yr STRB

Mae'r undebau addysg (UCAC, NUT, NAHT, ASCL, ATL a VOICE) wedi anfon llythyr ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol tros Addysg yn galw ar Llywodraeth San Steffan i sicrhau bod y Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol yn nodi'n statudol y dylai pob athro dderbyn codiad cyflog, yn unol ag argymhellion yr STRB ar gyfer yr ystod cyflog perthnasol. 

Darllen mwy