Safbwynt UCAC ynghylch wythnos 20-24 Gorffennaf
23 Mehefin 2020
Daeth rhes o gyhoeddiadau gan Awdurdodau Lleol o nos Wener 19 Mehefin ymlaen a dros y penwythnos ynghylch eu trefniadau ar gyfer yr wythnos ‘ychwanegol’ o dymor cyn yr haf, sef 20-24 Gorffennaf.
Yn sgil y datganiadau hynny, a’r ffaith bod rhai ohonynt wedi cyfeirio at ‘yr undebau’, rydym am ddatgan safbwynt UCAC yn glir.
- Nid yw UCAC ar unrhyw adeg wedi gwrthwynebu neu ymgyrchu yn erbyn agor ysgolion yn ystod yr wythnos 20-24 Gorffennaf; nid yw ychwaith wedi ymgyrchu o blaid
- Mae UCAC wedi amlinellu cyfres o faterion ymarferol y byddai angen eu hystyried a’u datrys er mwyn agor ysgolion yn ystod yr wythnos ychwanegol, neu petai’r flwyddyn ysgol yn cael eu hamrywio mewn unrhyw ffordd
- Y gwirionedd yw mai’r Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru sydd wedi methu dod i gytundeb ar y mater hwn, nid yr undebau a Llywodraeth Cymru