Dim ail-agor ysgolion

4 Mai 2020

Dim ail-agor ysgolion

Mae nifer wedi cysylltu dros y Sul yn dilyn sylwadau yn y cyfryngau am drefniadau dychwelyd i’n hysgolion.

Carwn bwysleisio nad yw Llywodraeth Cymru wedi nodi unrhyw ddyddiad(au) penodol ar gyfer dychwelyd yn ein trafodaethau â hwy ac mae Llywodraeth Cymru ei hunan wedi cadarnhau nad oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud ar sut na phryd yn union y bydd ysgolion yn ail agor.

Er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth mae’n bwysig ail-bwysleisio’r ‘egwyddorion allweddol’ cyn unrhyw ddychwelyd sydd wedi cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Addysg:

Darllen mwy

Gwybodaeth gan UCAC: athrawon cyflenwi

4 Mai 2020

Rydym yn ymwybodol iawn ein bod yn parhau mewn cyfnod anodd iawn i’r sector addysg ac i’r wlad. Ymhellach, rydym yn llwyr ymwybodol eich bod fel aelodau cyflenwi/llanw yn parhau i wynebu cyfnod ansicr iawn yn ariannol, yn enwedig y rhai ohonoch sy’n derbyn eich cyflog yn uniongyrchol gan yr awdurdodau neu’n disgwyl i gwmni ambarél sicrhau ‘furlough’ os ydych yn gweithio i asiantaeth. 

Oherwydd hynny, rydym yn parhau i drafod â’r awdurdodau ar ran pob un ohonoch. 

Ymhellach, o ran y rhai ohonoch sy’n derbyn eich cyflog yn uniongyrchol gan yr awdurdodau rydym yn rhoi pwysau mawr ar Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) i weithredu er mwyn sicrhau bod cyfarwyddiadau clir yn cael eu trosglwyddo at sylw’r awdurdodau a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio’r cynllun cymorth ariannol sy’n bodoli. 

Yn ogystal, mae’r trafodaethau’n parhau ag uwch swyddogion Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru. Rydym yn disgwyl arweiniad pellach o ran ‘furlough’ a’r sector gyhoeddus yn fuan, a mawr obeithiwn y bydd hyn yn gymorth wrth i ni frwydro i sicrhau tegwch i chi.  

Darllen mwy

Calan Mai

1 Mai 2020

Calan Mai

Heddiw, roedd yr undebau llafur sy’n aelodau o’r TUC yn sefyllfa gyda’n gilydd ar ddydd Calan Mai – y diwrnod i gydnabod cyfraniad pobl sy’n gweithio.

Cafwyd neges yn y Daily Mirror i’r perwyl hwnnw: 

Mae’r argyfwng hwn yn dangos i ni cymaint yr ydym yn dibynnu ar weithwyr rheng flaen ein GIG, gofal, ysgolion, archfarchnadoedd, trafnidiaeth a gwasanaethau hanfodol eraill.

Nhw yw’r gorau ohonom. Ac rydym yn dweud diolch yn fawr.

Ond wrth i ni gymeradwyo a bloeddio, rhaid i’r wlad hon wneud mwy hefyd.

Darllen mwy

Ymgynghoriadau ynghylch cymwysterau

28 Ebrill 2020

Ymgynghoriadau ynghylch cymwysterau

Hoffwn dynnu’ch sylw at dri ymgynghoriad sydd ar agor ar hyn o bryd, am gyfnod byr, a allai fod yn berthnasol i chi – naill ai o safbwynt bod gennych ddysgwyr fyddai wedi sefyll cymwysterau dros yr haf, neu am ei fod yn effeithio ar eich trefniadau mynediad ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.

Ofqual: GCSE and A level grading proposals for 2020
Dyddiad cau: dydd Mercher, 29 Ebrill - FORY
https://www.gov.uk/government/news/ofqual-seeks-views-on-gcse-and-a-level-grading-proposals-for-2020

Mae’r ymgynghoriad hwn yn debyg iawn i un Cymwysterau Cymru isod, ac mae’n berthnasol i Gymru dim ond i’r graddau bod rhai dysgwyr yn sefyll cymwysterau nad ydynt yn rhai Cymru-yn-unig.

Darllen mwy