Diweddariad i staff Addysg Uwch: COVID-19

26 Mawrth 2020

Diweddariad i staff Addysg Uwch: COVID-19

Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg a thu hwnt mae UCAC yma i chi fel gweithwyr yn y sector addysg uwch.

Cymwysterau

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan na fydd cyfres arholiadau’r haf (TGAU a Safon Uwch) yn digwydd. Bydd rhagor o wybodaeth i ddilyn ynghylch cymwysterau eraill.

Fodd bynnag, caiff graddau eu dyfarnu ar sail amrywiaeth o dystiolaeth sydd eto i’w benderfynu’n derfynol. Yn naturiol, bydd hyn yn effeithio ar drefniadau mynediad ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru’n trafod y sefyllfa gyda UCAS a HEFCW, ac yn gofyn i sefydliadau Addysg Uwch i beidio newid eu cynigion i fyfyrwyr dros y pythefnos nesaf i sicrhau sefydlogrwydd.

Ceir datganiad llawn y Gweinidog Addysg yma:

https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-datganiad-ar-gyfres-arholiadaur-haf

Darllen mwy

Diweddariad 2 i Athrawon Newydd Gymhwyso

26 Mawrth 2020

Diweddariad 2 i Athrawon Newydd Gymhwyso

Yn dilyn y neges a anfonais atoch ddoe, dyma ddolen i’r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa Athrawon Newydd Cymhwyso.

Mae’n cynnwys Canllawiau dros-dro ynghylch y trefniadau ar gyfer y Cyfnod Ymsefydlu yn sgil COVID-19:

https://hwb.gov.wales/datblygiad-proffesiynol/cyfnod-ymsefydlu/

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso mawr i chi gysylltu ar:

01970 639950
Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.

Diweddariad i Athrawon Newydd Gymhwyso

25 Mawrth 2020

Diweddariad i Athrawon Newydd Gymhwyso

Yn ein cyfarfodydd gyda Llywodraeth Cymru mae UCAC wedi bod yn gwthio am eglurder am y modd y bydd Athrawon Newydd Gymhwyso yn cwblhau eu Cyfnod Ymsefydlu statudol tra bod ysgolion ar gau.
 
Rydym hefyd wedi pwyso ar Gyngor y Gweithlu Addysg i ystyried y mater ar fyrder.
 
Dyma’r datganiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru:

Darllen mwy

Diweddariad: Covid 19

24 Mawrth 2020

Diweddariad: Covid 19

Mae UCAC wedi bod yn cyfarfod, dros gynhadledd-fideo, Llywodraeth Cymru i drafod rôl hanfodol ein hysgolion wrth ddelio gyda’r sefyllfa. Byddwch yn gweld o’r datganiad bod datblygiadau yn cael eu hadolygu gyda’r undebau a hynny’n ddyddiol.

Daeth cais neithiwr gan Lywodraeth Cymru i ni rannu’r datganiad a wnaeth Kirsty Williams, Gweinidog dros Addysg gyda chi heddiw:

Darllen mwy

Diweddariad i Arweinwyr Ysgol: COVID-19

20 Mawrth 2020 

Diweddariad i Arweinwyr Ysgol: COVID-19

Mewn amser o ansicrwydd enbyd ym myd addysg cofiwch fod UCAC yma i chi. Gwyddom pa mor drwm yw’r baich ar arweinwyr ar gyfnod fel hyn.

Mae nifer fawr iawn o gwestiynau eto i’w hateb. Rydym mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru i godi cwestiynau a phryderon, ac yn cydweithio i geisio dod o hyd i ddatrysiadau sy’n dderbyniol dan yr amgylchiadau.

Darllen mwy